Rwy’n creu gemwaith arian cyfoes gan osod aur 24 carat drwy’r dechneg Asiaidd Keum-Boo, goreuro disbyddu a bwrneisio ffoil aur ar arwynebau arian. Rwy’n datblygu ffurfiau ac arwynebau gweadog gyda phatrymau cerfwedd. Mae cyferbyniad yn elfen bwysig o’r wyneb gorffenedig a allai fod yn aur gydag arian satin neu’n amrywiaeth donaidd a gyflawnir drwy ocsidio. Ysbrydolir fy nghasgliadau gan brofiadau ac atgofion o leoedd a diwylliannau. Maent yn cynnwys motiffau, siapiau a ffurfiau organig a geometrig.