S V Enamels

Rwy’n gwneud gemwaith creaduriaid enamel yn defnyddio cyfuniad o’r dechneg enamel cloisonné a pheintio enamel miniatur. Mae’r rhan fwyaf o’r anifeiliaid yn greaduriaid a welaf yn rheolaidd ond ar hyd y blynyddoedd maen nhw wedi mynd yn llai realistig ac yn fwy dychmygol. Rydw i hefyd yn gwneud miniaturau enamel o lygaid a phortreadau bychain. Mae fy ngwaith dan 5cm o faint gan fy mod yn defnyddio tortsh nwy yn hytrach nag odyn sy’n cyfyngu ar ei faint.
Rwy’n hunan-addysgedig ac wedi arbrofi gydag enamel ers dros 25 mlynedd. Rwy’n ceisio defnyddio enamel a wneir yn y DU lle y bo’n bosibl ynghyd â metel wedi’i ailgylchu neu sgrap.