Ruth Green

Mae Ruth yn gwneud sgrinbrintiau argraffiad cyfyngedig lliwgar a chollages untro. Gwneir y printiau â llaw mewn stiwdio fach yng Ngogledd Cymru. Mae’n cyflwyno’i gwaith yn ofalus mewn mowntiau o safon cadwraeth a fframiau pwrpasol. Ysbrydolir ei gwaith gan anifeiliaid a phlanhigion, celf werin, dylunio a darlunio canol canrif. Mae’n ceisio ysgogi sirioldeb a chodi ysbryd pobl gyda’i lliwiau beiddgar. Mae ei gwaith yn tynnu sylw at werth y manylion ym myd natur o’n cwmpas, a’i gallu i effeithio ar ein bywydau er gwell. Mae busnes Ruth wedi’i gysegru i’r amgylchedd sy’n ei hysbrydoli. Mae’r stiwdio’n gweithredu polisi sero wastraff, gan ail-bwrpasu deunydd gwastraff ac ailgylchu a chompostio’r rhai na ellir eu defnyddio bellach.