Rural Kind

Mae Rural Kind yn frand o nwyddau bach cynfas cwyrog a lledr a sefydlwyd yn wreiddiol fel ail fusnes yn 2014. Mae fy musnes wedi’i seilio ar fy hoffter o ddylunio a chrefftwriaeth, ac rwy’n creu nwyddau cario ac ategolion lledr bychain wedi’u saernïo â llaw ar gyfer anturiaethau bob dydd. Caiff pob eitem ei dylunio’n feddylgar gyda phwyslais ar linellau clir, syml, manylion ystyriol, ac yn bennaf oll, ymarferoldeb. Rwy’n defnyddio deunyddiau traddodiadol a ddyluniwyd (ac a brofwyd) i bara am genedlaethau, yn cynnwys cynfas cwyrog Albanaidd, lledr wedi’i drin â rhisgl derw o danerdy bach yn Nyfnaint, caledwedd pres solet a webin cotwm gwŷdd gwennol traddodiadol. Mae fy amrediad o fagiau’n canolbwyntio ar swyddogaethau penodol – bagiau ar gyfer offer, bagiau cinio, bagiau prosiectau gwau, a bagiau ar gyfer garddio a halio boncyffion. Gwneir pob eitem â llaw, o’r pwyth cyntaf i’r rhybed copr olaf, gyda chymorth peiriannau gwnïo diwydiannol cryf yn ein gweithdy bach mewn hen ysgol gynradd yn Sir Gâr.