Gan ddefnyddio Arian Sterling wedi’i ailgylchu a thechnegau traddodiadol, rwy’n creu gemwaith cyfoes syml sy’n steilus ac yn hygyrch. Mae fy ngemwaith syml, â’i siapiau unigryw, yn cyfuno siapiau geometrig llym â llinellau clir a gweadau organig. Ysbrydolir y Casgliad cerigos gan hoff ymweliadau i’r traeth ym Mhrydain a phentyrru cerigos, ac mae’n atgof o hanes cyfoethog y meini hir a’r cylchoedd hynafol. Mae cerfluniau organig llyfn yr artist o St Ives, Barbara Hepworth, yn dylanwadu ar fy Hepworth Collection. Ar y cyd â siapiau a llinellau wedi’u mewnosod i gynrychioli’r gwythiennau a’r cilfachau mewn cerrig wedi’u herydu gan y môr, mae i rai o’r darnau cerigos hyn edafedd sidan ‘wedi’u llinynnu’ drwy’r mannau gwag.
O fwclis beiddgar i eitemau arddwrn clasurol, clustdlysau a modrwyau, gellir gwisgo gemwaith Polished Grey yn annibynnol neu gyda’i gilydd: gemwaith cyffyrddus, bob dydd mewn amrediad eang o steiliau ac wedi’i wneud i bara. Mae gen i radd BA Anrh mewn Celfyddyd Gain ac Estheteg o Brifysgol Cymru, Caerdydd a gyrfa flaenorol mewn dylunio graffig, ac mae’r ddwy elfen yn llywio fy ngwaith heddiw.