Kate Kato

Gan ddefnyddio papur, gwifren ac edau, rwy’n ceisio cipio’r harddwch a’r manylder cain a welir yn natur. Mae planhigion, pryfed a gwrthrychau hapgael yn dylanwadu ar fy ngwaith ac rwy’n eu hail-greu ar ffurf cerfluniau gwir faint, cymhleth a’u trefnu’n ofalus i greu casgliadau, gosodiadau a dioramau.
Rwy’n gwneud fy ngherfluniau o bapur wedi’i ailgylchu, yn cynnwys tudalennau llyfr, cylchgronau a hen fapiau ac rwy’n gadael peth o’r print gwreiddiol yn y golwg yn y cerfluniau i’ch annog i graffu ac i gwestiynu’r hyn a welwch. Rwy’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau yn cynnwys torri papur, cerfio ac weithiau brodwaith i fywiogi’r cerfluniau, ac fel arfer rwy’n eu peintio â dyfrlliwiau i roi eu lliwiau a’u patrymau organig iddynt.