Busnes bach teuluol yn Swydd Rydychen a Chaerfaddon yw In-cahoots sy’n arbenigo mewn gwneud blychau, cabinetau, drychau a chrogluniau geometrig ar archeb. Gwneir pob un â llaw i orffeniad o safon uchel gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy. Mae In-cahoots yn ymfalchïo yn eu dyluniadau argaenwaith dethol, unigryw, sydd yn aml yn cyfleu effaith rhithiol.