CardiShed

Mae SiedCardi yn elusen lles a chymorth cymunedol. Dechreuon ni yn 2021 mewn ymateb i’r gyfradd uchel o hunanladdiad ymhlith dynion yng Ngheredigion. Rydym wedi creu gofod lle gall pobl ddod at ei gilydd i rannu sgiliau a dysgu rhai newydd mewn amgylchedd cynhwysol, cefnogol a heb farn. Ein nod yw adeiladu cymuned trwy herio unigrwydd ac arunigrwydd trwy greadigrwydd. Mae gennym weithdy gwaith coed, gweithdy pren ir, gwasanaeth trwsio beiciau a mannau gweithdy eraill ar gael i’r gymuned leol.

Rydym yn cynnig diwrnodau gweithdy i ddynion, i fenywod a diwrnodau agored. Rydym hefyd yn cynnal prosiectau crefft 6 wythnos i bobl ifanc. Er mwyn sicrhau bod y prosiect yn hygyrch i bob rhan o’n cymuned, rhodd wirfoddol o £10 y diwrnod ynghyd â chost deunyddiau yw’r gost i fynychu SiedCardi. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i’n gwasanaethau beth bynnag fo’u sefyllfa ariannol.