Hello,
Now that we’ve taken down the tents and packed up all the stalls and had a little bit of rest we wanted to thank you for coming to Craft Festival Wales, and to encourage you to take part in our event survey. It’s quick and easy we promise – it should take you just over 10 minutes on your phone, tablet or laptop.
As a thank you for completing this survey you can enter into a prize draw to win a 2 night stay for 2 (Feb 5-7 2027) at Queen’s Apartment in Cardigan, courtesy of our friends at Ty Annie Holidays*. To be in with a chance of winning, please submit your response by midnight on Sunday 4 October 2026.
You can take part in either Welsh or English. You’ll find an English language version of the survey here, and a Welsh language version here.
Your feedback is really important; it’s how we know what worked and what didn’t at this edition of the festival, and is your chance to shape how we do things in the future. So, please do take part if you can. Thanks!
Restassured that your feedback will remain confidential. All individual responses are anonymised, and the team at our research partners, the hub, won’t share any of your personal data with anyone, including us. They’ll use it simply to produce an overall evaluation of the event.
We really do hope you’ll tell us what you think! If you have any questions about the survey, please do email us at hello@craftfestival.co.uk.
100 makers presented their work to over 4500 visitors over the weekend with over 350 children enjoying craft workshops. You were welcomed by Tom Hare’s mesmerizing mushroom inspired archway, we hosted demonstrations, workshops, masterclasses and talks. We listened to great live music, enjoyed walkabout theatre from Kitsch n Sync and fun and games with Mr Jon Jon. We were moved by the wonderful Hijinx Theatre and you might have even glimpsed the spirit of Miss Woods! (portrayed beautifully by Jo Shapland). It was a magical few days.
We gave out some awards at the weekend too. The winners were:
Find a Maker Best in Show was awarded to Tom Frost receives a free stand at Craft Festival Bovey Tracey 2027 and 2 years membership of Find a Maker.
Find a Maker Best New Business GAW Ceramics receives 2 years membership of Find a Maker.
Llantarnam Grange Showcase Award Stephanie Duckettreceives a showcase at Llantarnam Grange Arts Centre
Oriel Myrddin Showcase Award was awarded to Micheala McMillan She receives a showcase at Oriel Myrddin.
Mission Gallery Showcase Award and the People’s Award was given to Seaweave Furniture
Roddy and Pat James Memorial Award for Ceramics was awarded to Su Thompson. She won £100.
Peer Award winner, chosen by our makers, was jeweller Ann Catrin Evans
New Ruthin Craft Centre Retail Awards were awarded to All in the Making and Penny Warren Jewellery.
Many congratulations to you all.
If you would like to be the first to hear about our latest news, you can sign up at the end of the survey.
Very best wishes,
Sarah James MBE
Craft Festival Director
Next Years Dates: Craft Festival Wales, September 10-12th, 2027
Helo,
Gan ein bod bellach wedi dadosod y pebyll a phacio’r holl stondinau – a chael hoe fach – hoffem ddiolch i chi am ddod i Ŵyl Grefft Cymru, a’ch annog i gymryd rhan yn yr arolwg ar ein digwyddiad. Mae’n gyflym ac yn hawdd, yn wir i chi – dylai gymryd rhyw 10 munud ar eich ffôn, llechen neu liniadur.
I ddiolch i chi am lenwi’r arolwg, gallwch roi eich enw yn y raffl i ennill arhosiad 2 noswaith i 2 (5-7 Chwef 2027) yn y Queen’s Apartment yn Aberteifi, trwy garedigrwydd ein ffrindiau yn Tŷ Annie Holidays*. Am gyfle i ennill, cyflwynwch eich ymateb erbyn hanner nos, dydd Sul 4 Hydref 2026.
Gallwch gymryd rhan yn Gymraeg neu yn Saesneg. Cewch fersiwn Saesneg o’r arolwg yma, a fersiwn Cymraeg yma.
Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni – dyma sut rydym yn gwybod beth weithiodd ac na weithiodd yng ngŵyl eleni, ac mae’n gyfle i chi lywio sut fyddwn yn gwneud pethau yn y dyfodol. Felly, os gallwch, cymerwch ran, da chi. Diolch!
Gallwch fod yn sicr y bydd eich adborth yn aros yn gyfrinachol. Bydd pob ymateb yn ddienw, ac ni fydd tîm ein partneriaid ymchwil, yr hyb, yn rhannu unrhyw elfen o’ch data personol gydag unrhyw un, yn cynnwys ninnau. Byddant yn eu defnyddio i gynhyrchu gwerthusiad cyffredinol o’r digwyddiad yn unig.
Rydym yn mawr obeithio y rhowch eich barn i ni! Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr arolwg, e-bostiwch ni yn hello@craftfestival.co.uk.
Cyflwynodd 100 o wneuthurwyr eu gwaith i dros 4500 o ymwelwyr dros y penwythnos a chafodd dros 350 o blant y cyfle i fwynhau’r gweithdai crefft. Cawsoch eich croesawu gan fynedfa fwaog gyfareddol Tom Hare, a ysbrydolwyd gan fadarch, ac fe gynhaliom arddangosiadau, gweithdai, dosbarthiadau meistr a sgyrsiau. Gwrandawom ar gerddoriaeth fyw wych, a mwynhasom theatr grwydrol Kitsch n Sync a’r hwyl a’r gemau gyda Mr Jon Jon. Cawsom ein swyno gan Theatr anhygoel Hijinx ac efallai cawsoch gipolwg ar ysbryd Miss Woods hyd yn oed! (a bortreadwyd yn hyfryd gan Jo Shapland). Roeddent yn ddiwrnodau hudolus.
Rhoesom wobrau dros y penwythnos hefyd. Yr enillwyr oedd:
Dyfarnwyd Gorau’r Sioe Find a Maker i Tom Frost a fydd yn cael stondin am ddim yng Ngŵyl Grefft Bovey Tracey 2027 ac aelodaeth dwy flynedd o Find a Maker.
Mae Busnes Newydd Gorau Find a Maker, GAW Ceramics yn derbyn aelodaeth 2 flynedd o Find a Maker.
Bydd gwaith enillydd Gwobr Arddangos Llantarnam Grange, Stephanie Duckett yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange.
Dyfarnwyd Gwobr Arddangos Oriel Myrddin i Micheala McMillan. Bydd ei gwaith yn cael ei arddangos yn Oriel Myrddin.
Rhoddwyd Gwobr Arddangos Oriel Mission a Gwobr y Bobl i Seaweave Furniture
Rhoddwyd Gwobr Goffa Roddy a Pat James am Gerameg i Su Thompson. Enillodd hithau £100.
E
nillydd Gwobr y Cyfoedion, a ddewiswyd gan ein gwneuthurwyr, oedd y gemydd Ann Catrin Evans
Rhoddwyd Gwobrau Manwerthu Newydd Canolfan Grefft Rhuthun i All in the Making a Gemwaith Penny Warren.
Llongyfarchiadau mawr i chi bob un.
Os hoffech fod ymhlith y cyntaf i glywed ein newyddion diweddaraf, gallwch gofrestru ar ddiwedd yr arolwg.
Cyfarchion cynnes iawn,
Sarah James MBE
Cyfarwyddwr Gŵyl Grefft
DYDDIADAU’R FLWYDDYN NESAF:Gŵyl Grefft Cymru, 10-12 Medi 2027


