Aur yn Oriel Canfas

I ddathlu dychweliad Gŵyl Grefft Cymru a’r Eisteddfod i Aberteifi, rydym yn falch o gyflwyno Aur, sef arddangosfa serennog o gyn enillwyr Medal Aur mewn celf a chrefft; crefft o Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar draws y degawdau.

Curadwyd Aur gan Suzi Park a Chyfarwyddwr Gŵyl Grefft, Sarah James, MBE, a bydd yn cynnwys gwneuthurwyr ac artistiaid byd-enwog o Gymru. Bydd Aur yn agor i groesawu’r Eisteddfod ac yn cau ar benwythnos yr Ŵyl Grefft yng Nghastell Aberteifi.

Dyddiadau’r arddangosfa: 1 Awst – 13 Medi

Bydd “Aur” yn Oriel Canfas yn cynnwys gwaith gan enillwyr blaenorol Medal Aur am grefft yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Ann Catrin Evans, gof metel, Enillydd Medal Aur 1993, crefft

Catrin Howell, cerameg, Enillydd Medal Aur 1998, crefft

Julia Griffiths-Jones, metel, Enillydd Medal Aur 2017, crefft

Laura Thomas, tecstilau, Enillydd Medal Aur 2024, crefft

Peter Bodenham, cerameg, Enillydd Medal Aur 2011, crefft

Suzi Horan, arian, Enillydd Medal Aur 2008, crefft

Verity Pulford, glass, 2025 Gold Medal Winner, craft

Oriel Canfas, Manchester House, Aberteifi, SA43 1HY

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.