Gŵyl Grefft Cymru - Ein Stori
Sefydlwyd Gŵyl Grefft yn 2004 fel sefydliad dielw. Cynhaliwyd ein Gŵyl wreiddiol yn Bovey Tracey, Dyfnaint ac mae wedi croesawu dros 160,000 o ymwelwyr gan gyfrannu o leiaf £25 miliwn i’r economi leol a derbyn dros 10,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Sefydlwyd Gŵyl Grefft Cymru yn 2023 gan ennyn canmoliaeth uchel, ac ennill gwobr Digwyddiad y Flwyddyn Ceredigion yn ei blwyddyn gyntaf.
Gwreiddiau yn Aberteifi
Mae ein cyfarwyddwr, Sarah James MBE, yn hanu o Aberteifi. Roedd lansio Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi yn 2024 yn cyflawni ei breuddwyd oes o ddod a’r Ŵyl Grefft adref.
Ffocws Gŵyl Grefft Cymru yw cefnogi gwneuthurwyr, dathlu gwneud Cymreig a chreu cyfleoedd diwylliannol ac economaidd i gymunedau yng Ngheredigion a thu hwnt.
Ein Partneriaid
Mae Gŵyl Grefft Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cynnwys Mwldan, Oriel Canfas, Walden Arts, Cered Menter Iaith, Mission Gallery, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Coleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Ymddiriedolaeth Ysgoloriaethau’r Frenhines Elisabeth, NOVUS a Heritage Crafts.
Hwylusir Gŵyl Grefft Cymru gan gyllid gan Ddigwyddiadau Cymru drwy Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Chynnal y Cardi drwy Gyngor Sir Ceredigion.
Rhagoriaeth Arobryn
- Enillydd Digwyddiad y Flwyddyn (Cymuned): Gŵyl Grefft Cymru, Gwobrau Caru Ceredigion 2024
- Digwyddiad y Flwyddyn, Yr Ail Orau: Gŵyl Grefft Cymru, Gwobrau Caru Ceredigion 2025