O Gwmpas Castell Aberteifi

Crwydrwch drwy bob rhan o Gastell Aberteifi

Camu trwy’r Bwâu

Mae eich taith i Ŵyl Grefft Cymru yn dechrau dan ddwy fynedfa fwaog helyg newydd syfrdanol gan y cerflunydd byd-enwog o Sir Benfro, Tom Hare.

Mae’r comisiynau trawiadol hyn yn ymgodi wrth fynedfa’r Castell ac yn arwain i’r Ardd Lysiau, ac maent yn trawsnewid y profiad o gyrraedd, gan eich gwahodd i arafu, craffu a mynd i mewn i fyd a ffurfiwyd gan sgiliau, dychymyg a deunyddiau naturiol.

Comisiynwyd y bwâu yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl Grefft a byddant yn aros yn eu lle tan 29 Tachwedd. Maent yn dathlu gwneud Cymreig ar ei ffurff fwyaf uchelgeisiol a barddonol, gan fframio Castell Aberteifi fel mynedfa i greadigrwydd, darganfod a chrefft ar eu gorau.

Darganfyddwch Wneuthurwyr Yfory

Mae’r arddangosfa a guradwyd hon, yng Nghegin y Castell, yn ffres, yn uchelgeisiol ac yn llawn addewid, ac mae’n dangos gwaith newydd rhagorol gan fyfyrwyr sy’n graddio mewn Cerameg, Gemwaith a Thecstilau o Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Dewiswyd y darnau’n ofalus o’r sioeau graddio gan Gyfarwyddwr Gŵyl Grefft, Sarah James MBE, ac mae’r arddangosfa’n cynnig platfform proffesiynol cyntaf hanfodol i wneuthurwyr datblygol, gan wahodd ymwelwyr i werthfawrogi eu syniadau beiddgar, eu dwylo crefftus a dyfodol crefft yng Nghymru.

Darganfyddwch Wneuthurwyr Yfory

Mae’r arddangosfa a guradwyd hon yng Nghegin y Castell yn ffres, yn uchelgeisiol ac yn llawn addewid, ac mae’n dangos gwaith newydd gan fyfyrwyr sy’n graddio mewn Cerameg, Gemwaith a Thecstilau o Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Dewiswyd y darnau’n ofalus o’r sioeau graddio gan Gyfarwyddwr Gŵyl Grefft, Sarah James MBE, ac mae’r arddangosfa’n cynnig platfform proffesiynol cyntaf hanfodol i wneuthurwyr datblygol, gan wahodd ymwelwyr i werthfawrogi eu syniadau beiddgar, eu dwylo crefftus a dyfodol crefft yng Nghymru.

Ychwanegwch Eich Pwyth at Gelfwaith Byw

Ymunwch â’r artist a’r athrawes Menna Buss yng Nghegin y Castell a chyfrannwch at y Prosiect Gwisg Galico, sef celfwaith cydweithredol, esblygol sy’n ddarn chwaer i’r Wisg Goch ryngwladol enwog. Gwahoddir ymwelwyr i gyfrannu eu marc, eu stori neu eu pwyth, gan ychwanegu eu llais at ddarn o frethyn a rennir grymus.

Gallwch gofrestru ar y diwrnod i ymuno â Menna mewn gweithdy pwytho i ychwanegu eich cyfraniad. 

Dewch i’r Gegin yn Nhŷ Gwyrdd y Castell i gofrestru. 

Bob Dydd gallwch ymuno â sesiynau 1 awr, am Ddim. 

Amseroedd y Sesiynau: 10.30, 11.30, 1.30, 3.30

Allan o’r Goedwig gyda CardiShed

Cydweithrediad newydd gyda CardiShed, yr elusen gwaith coed dan arweiniad gwirfoddolwyr, sy’n dathlu creadigrwydd fel erfyn grymus ar gyfer ymgysylltu, lles a gwydnwch. Yn swatio ym Mherllan y Castell, darganfyddwch sut mae gwneud yn hel pobl at ei gilydd, a bydd cyfleoedd i’r cyhoedd gyfrannu’n ymarferol.

Gŵyl Grefft yn y gymuned

Allgymorth: Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, mae un o’n prosiectau allgymorth yn gweithio mewn partneriaeth â’r bobl ifanc o Futureworks a Walden Arts yn Aberteifi. Y nod yw creu cyfleoedd i bobl ifanc fagu hyder a’u hannog i gyfranogi yn y celfyddydau.

Gan weithio mewn chwe sesiwn wythnosol yn Walden Arts, archwiliodd y bobl ifanc o Futureworks gyfoeth o wahanol brosesau printio, yn cynnwys monoteip, printio botanegol, printio stensilau, colagraffeg a leino.

Bydd arddangosfa o’r gwaith a gynhyrchwyd yn yr Ystafell Enfys yn Nhŷ Gwyrdd y Castell yn ystod yr Ŵyl.

Rhoi gobaith i bobl ifanc

Allgymorth: Mae elusen addysgol QEST a Novus, yn gweithio gyda Ysgolhaig QEST, Jystyna Medon o Addicted to Pattern, ar brosiect creadigol a chyflogadwyedd gyda dysgwyr carchar o HMP Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y canlyniadau i’w gweld yn Ystafell y Brecwast yn ystod yr Ŵyl Grefft.