Yvette Brown

‘Byd o storïau bach’ sy’n dathlu ein gallu i greu naratif allan o unrhyw beth bron iawn. Ysbrydolir fy ffigyrau bach piwter gan deithiau cerdded ar hyd traethau lleol gyda’r hwyr, yn gwylio pobl a chŵn yn rhyngweithio â’i gilydd ac â’r gwylanod. Yn y darnau hyn rwy’n ceisio eich tywys i’r man diniwed, cynnes a diogel a welawn yn hoff ddarluniau llyfrau plant fy mhlentyndod. Rwyf hefyd yn chwarae gyda siapiau adar yn yr awyr trwy fowntio drudwyod a gwenoliaid duon piwter ar froc môr neu hen haearn rhychiog. Rwy’n bwrw’r piwter â llaw mewn mowldiau a wnaf fy hunan o haenau o bren. Rwy’n casglu broc môr ar draethau Gorllewin Cymru, ac yn dwyn haearn o ysguboriau adfeiliedig lleol.