Terry Macey

Rydym yn dylunio ac yn gwneud dillad menywod steilus, unigryw yn ein Stiwdio yng Ngwlad yr Haf, gan ddefnyddio ffabrigau naturiol wedi’u cyrchu a’u comisiynu’n ofalus – lliain Gwyddelig wedi’i olchi mewn peiriant, gwlân Seisnig a brethyn caerog o’r Alban yn bennaf.
Mae talu sylw i fanylion a gorffeniad pob dilledyn yn nod masnach, ond yn bwysicaf oll efallai, rydym yn dylunio i fenywod o bob oedran, siâp a maint. Rydym yn cydweithio’n agos â’n cleientiaid i ddarparu ffitiadau personol a dillad wrth fesur pan fod angen, naill ai yn ein Stiwdio neu yn yr amrywiol arddangosfeydd Crefft Dylunwyr a fynychwn trwy gydol y flwyddyn.
Ar ôl 35 mlynedd mewn busnes, mae ein hamrywiaeth o ddyluniadau’n helaeth ac er ein bod yn creu steiliau newydd bob blwyddyn, mae nifer wedi dod yn glasuron eiconig, yr un mor boblogaidd heddiw â phan gawsant eu creu’n gyntaf.
Mae llawer yn dotio ar ein dillad, at ddefnydd bob dydd ac achlysuron arbennig, boed priodas, parti neu seremoni wobrwyo. Rydym yn eu creu gyda chariad a gofal ac i bara y tu hwnt i unrhyw dueddiadau ffasiwn.