Mae Su Thompson yn llunio llestri crochenwaith caled gyda gwydreddau grisialog a mat. Gan ddefnyddio’i ryseitiau gwydredd personol, mae’n annog twf grisialau bach helaeth, gan archwilio lliw a phatrwm o fewn yr arwyneb ymatebol hwn. Ysbrydolir ei phalet o donau a gweadau tawel gan y lliwiau a phatrymau a welir mewn tirweddau naturiol ac arfordiroedd.
Enillodd Su radd mewn Cerameg o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yng nghanol y 1990au. Roedd yn wneuthurwr mowldiau, yr oedd ei gwaith yn archwilio ymgorffori’r ddelwedd ddynol. Yn sgil y diddordeb hwn, datblygodd ei gyrfa un mlynedd ar bymtheg fel artist gwallt a cholur yn y diwydiant teledu a ffilmiau. Yn ddiweddarach, dychwelodd at gerameg, a’i hoffter o wneud.