Mae Peter Bodenham yn rhedeg Crochendy Llandudoch ger Aberteifi, gan greu cerameg a lywir gan y dirwedd a chymeriad Gorllewin Cymru. Mae ei waith yn adlewyrchu ymdeimlad cryf o le, gan dynnu ar y ddaeareg a’r ecoleg leol, a gwrthrychau hapgael a gasglwyd ar hyd y draethlin. Mae lliwiau arfordirol a gweadau arwyneb yn llywio’i botiau, tra bod cerameg hanesyddol a llestri pren a metel traddodiadol yn dylanwadu ar eu ffurfiau. Trwy archwilio clai a gwydredd, mae Bodenham yn ceisio mynegi rhinweddau materol clai ac awyrgylch ei amgylchoedd.