Rachel Butlin Jewellery

Mae Rachel yn ceisio herio’r cysyniadau o emwaith cyfoes, gan gynhyrchu amrediad o ddarnau defnyddiau cymysg soffistigedig. Mae’n hoffi herio’r ffordd y mae pobl yn canfod darn, trwy greu cerflunwaith ar raddfa fechan y gellir ei wisgo ar y corff, yn ffordd ddewisol y gwisgwr. Gan roi ystyriaeth ofalus i gyfuno a gosod deunyddiau, mae ei gwaith yn aml yn archwilio deunyddiau pwrpasol, gan effro chwilfrydedd rhwng y darn a’r gwisgwr ei hun. Mae’n archwilio’r syniadau a’r themâu hyn trwy dasgiadau beiddgar o liw a llinellau syml, a gyfunir i greu tlysau, clustdlysau a mwclis unigryw. Mae’n creu’r darnau o Enamel, Fformica, Pren Collen Ffrengig ac Acrylig. Trwy bentyrru, haenu a gosod cydrannau gyda’i gilydd, mae’n dod o hyd i wahanol ffyrdd o lunio darnau gan ddefnyddio technegau gemwaith traddodiadol fel gosod a rhybedu.