Naomi James

Rwy’n gwneud amrediad o emwaith arian beiddgar gweadog gyda gwasgnodau o blanhigion, hadau a blodau go iawn. Rwy’n hoffi defnyddio gweadau cyferbyniol ac arlliwiau o aur, ac yn hoff iawn o ychydig anghymesuredd. Rwy’n bioden wrth gasglu gemfeini anarferol a ddefnyddiaf i wneud modrwyau a mwclis untro. Mae rhai o’m dyluniadau diweddar yn defnyddio hen docins chwarae o berlau ac rwy’n gwirioni ar opalau!