Nant Designs

Papur plyg gwyn cras wedi’i lapio mewn beth? Gorchudd papur gyda dyluniad printiedig sgrin sidan o waith llaw gyda chorneli a chefnen brethyn wedi’u cryfhau, sidan o hen kimono lliwgar, ffabrig cyfoes neu ddarn o bapur Japaneaidd wedi’i brintio â stensil. Mae fy llyfrau hefyd yn cyfuno deunyddiau rhwymo llyfrau traddodiadol â mewnosodiadau hen les neu sleidiau llusern hud i greu llyfrau mwy anghonfensiynol. Mae gwnïo a rhwymo â llaw yn creu llyfrau cryf, hirbarhaol sy’n addas at bob ddiben. Mae’r rhwymiadau’n amrywio – mae gwnïo coptig yn caniatáu i lyfr orwedd yn wastad, sy’n ddelfrydol ar gyfer albymau a siwrnalau, tra bod rhwymiad clasurol yn addas ar gyfer dyddiaduron a nodiaduron. Gallwch weld y rhain, ynghyd ag enghreifftiau o rwymo tyllau botwm a bradel yn fy nghasgliad. Y tu mewn i’r llyfrau bydd papur darlunio a dyfrlliw, dalennau llinellog ar gyfer ysgrifennu, ynghyd â thudalennau a ddyluniwyd ar gyfer dyddlyfrau bwled, a llyfrai gwesteion neu gyfeiriadau.