Lucy Burke Jewellery

Rwy’n emydd hunan-addysgedig yn bennaf, ond dysgais dan fentoriaeth Anne Morgan, ac yn ystod y 10 mlynedd o gyflogaeth yn ei horiel. Oherwydd fy nghefndir mewn celfyddyd gain, mae dylunio’n llywio fy ngwaith, gydag estheteg fodernaidd a minimalaidd gref. Ceir cyferbyniad rhwng elfennau geometrig clir mewn arian mat wedi’i swndio a gemfeini naturiol mewn tonau niwtral priddlyd, a nodion diemwntau llwyd a gwyn. Mae’r casgliadau i’w gwisgo yn feiddgar, yn gerfluniol, gydag arddull wreiddiol ac adnabyddadwy.
Mae graddfa fy ngwaith yn golygu y gellir ei wisgo ond rwy’n tueddu at orfaint: mae fy modrwyau unigryw yn fawr, a’r mwclis yn ddarnau talpiog, trawiadol.