Astudiodd Louise Ddylunio Gemwaith yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2025, gan ennill gradd dosbarth 1af. Mae Louise yn cyfuno sgiliau gemwaith traddodiadol â thechnegau digidol a deunyddiau gwneud i greu darnau sy’n organig, geometrig a cherfluniol.
Mae ei phroses yn dechrau gydag arbrofi â chŵyr, gan greu ffurfiau organig sydd wedyn yn cael eu coethi trwy dechnolegau digidol i gyflwyno elfennau geometrig – gan greu dyluniadau a fyddai’n amhosibl gyda sgiliau traddodiadol yn unig. Gan ychwanegu dimensiwn arall at ei gwaith, mae’n trin lliw i fwyhau’r cyferbyniad a’r dyfnder.
Mae gemwaith Louise yn ceisio codi cwestiynau ynglŷn â’r berthynas a’r tensiwn rhwng yr elfen organig a geometrig. Trwy ei gwaith, mae’n gobeithio ennyn chwilfrydedd, cyfaredd ac ymdeimlad o gynefindra, gan sbarduno sgwrs a rhyngweithiad gyda phob darn.