Rwy’n ddylunydd wneuthurwr gemwaith Gymreig annibynnol sy’n arbenigo mewn creu gemwaith cyfoes unigryw gan ddefnyddio technegau gemwaith traddodiadol. Dan ysbrydoliaeth y ffurfiau organig, y patrymau, haenau a gweadau annisgwyl a’r siapiau ailadroddol â welir ym myd natur, rwy’n creu darluniau, dyluniadau a phrintiau i’w trosglwyddo a’u hysgythru’n barhaol ar wyneb pob darn drwy’r broses ysgythru.
Rwy’n defnyddio arian ac aur wedi’u hailgylchu a’r hen dechneg gronynnu.