Rwy’n creu dillad ac ategolion wedi’u gwau gan ddefnyddio technegau traddodiadol fel gwau â pheiriant, dolennu a gorffen â llaw. Rwy’n defnyddio ffibrau naturiol yn unig yn fy nghasgliadau – gwlân oen yw fy ffibr dewisol gan amlaf. Mae lliw a phatrwm bob amser yn flaenllaw yn fy nghasgliadau, ac mae’r palet o liwiau ysgafn ond llachar yn un o’m pwyntiau gwerthu unigryw. Mae manylion fel cyffiau ffriliog, streipiau ochr a llewys pwff yn enghreifftiau o gymeriad unigryw fy amrediadau o ddillad. Rwy’n gwneud llawer o ddarnau ar archeb mewn gwahanol feintiau a dyluniadau, ac mae hon yn rhan bwysig o fy musnes a’r broses ddylunio.