Rwy’n gwehyddu basgedi cyfoes a thraddodiadol o helyg a dyfaf gyda fy ngŵr, Alan, yn Sir Gâr. Rwy’n hoffi defnyddio lliwiau naturiol yr helyg a detholiad eang o wehyddiadau traddodiadol i greu eitemau hardd ar gyfer y cartref a’r ardd. Mae’r basgedi cerfluniol, organig, y gwarbaciau twrio am fwyd a’r basgedi Cymreig traddodiadol ymhlith fy ffefrynnau.