Rhedir Imaginarium Atelier gan y gemyddion Sylvaine Frouin a Marek Machlowski, sy’n creu gwaith llaw yn eu stiwdio ac oriel newydd ym Machynlleth, Canolbarth Cymru. Mae eu gwaith yn pontio gofannu aur traddodiadol a gemwaith celf, o ddarnau unigryw i’w gwisgo i wrthrychau gemwaith untro sy’n eistedd rhwng gemwaith, cerflunwaith a pheintiadau, yn aml ag ymdeimlad o gwpwrdd arddangos llawn cywreinbethau. Maen nhw hefyd yn gwneud darnau ar archeb, modrwyau dyweddïo, bandiau priodas a chomisiynau ailwampio.