Annabel Roberts Ceramics

Rwy’n llunio amrywiaeth o ddarnau ceramig swyddogaethol a ysbrydolir gan siapiau a gweadau naturiol cerrig hindreuliedig. Mae fy narnau’n esblygu’n organig i’w ffurfiau gorffenedig – mae’r ymylon yn ymdonni, mae’r llestri’n syml a braidd yn anghymesur. Gorffennir fy llestri bwrdd mewn palet o liwiau pridd llwydwyn a glas ysgafn.