All In The Making

Rwy’n ddylunydd/gwneuthurwr dodrefn a nwyddau cartref hunan-addysgedig sy’n byw yn y Cotswolds. Daw fy ysbrydoliaeth o arddulliau gwledig Prydeinig ac yn benodol, y traddodiad Cymreig o wneud dodrefn brodorol swyddogaethol. Gan ddefnyddio technegau saernïo traddodiadol, rwy’n creu darnau hardd, defnyddiol ar gyfer cartrefi hanesyddol a rhai modern. Mae fy nyluniadau’n ysgogi ymdeimlad o berthyn ac ymgysylltu â’r gorffennol, ac ar yr un pryd yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy trwy ddefnyddio deunyddiau a gyrchir yn lleol ac amrywiaeth gyfyngedig o offer llaw.