Laura Thomas Woven Textiles

Rwy’n artist tecstilau lluniedig sefydledig, gyda dros ugain mlynedd o ymarfer yn creu gwaith anghonfensiynol ar gyfer mannau cyfoes. Daw fy ysbrydoliaeth weledol o dirwedd Cymru, ac yn benodol o’r gorwelion arfordirol a’r mân bethau sydd dan droed. Yn greiddiol i fy ngwaith, boed artistig neu iwtilitaraidd, mae fy chwilfrydedd ymarferol cynhenid i ddatblygu egwyddorion gwehyddu, dathlu harddwch edafedd a chreu estheteg gofiadwy ar gyfer y grefft hynafol hon.
Rwy’n defnyddio amrywiaeth o ffibrau naturiol fel sidan, cotwm, lliain, gwlân, a raffia, a gyfosodir â metelau a monoffilamentau i wneud gwaith wedi’i wehyddu â llaw. Rwyf hefyd yn gwneud cerfluniau lle mae edafedd yn cael eu hamgáu mewn laminiadau resin acrylig neu wydr.