Katy Mai Webster

Rwy’n gwneud gemwaith ceramig ac arian a ysbrydolir gan y dirwedd a’r arfordir o gwmpas fy nghartref yng Ngogledd Cymru. Mae pob darn yn unigryw – rwy’n defnyddio technegau monobrintio, gwrthgwyr a pheintio â llaw, gan weithio’n reddfol. Rwy’n gwneud darluniau llyfr braslunio o’r dirwedd fel deunydd craidd, yn enwedig darluniau o farciau dynol ar y tir. Mae’r cerameg o grochenwaith caled a phorslen yn cael eu tanio ar dymheredd uchel, gyda gwydreddau mat sy’n rhoi ansawdd cyffyrddol i’r gemwaith. Rwy’n defnyddio platinwm ac aur yn aml i ychwanegu manylder at yr wyneb ceramig wedi’i danio, ac yn gorffen gyda phetheuach arian ocsidiedig.