Mae defnydd dilys o ddeunyddiau a phrosesau yn greiddiol i fy ymarfer ac yn llywio fy ffordd o ddatblygu delwedd – mae llawer o fy mhrintiau’n cyfuno sawl techneg gwneud printiau i gyflawni’r effaith dymunol. Rwy’n gweithio’n reddfol, gan adeiladu haenau o bigment tryleu trwy basio’r gwaith trwy’r wasg sawl gwaith. Wrth wneud hyn, rwy’n gallu creu cydadweithiau annisgwyl a diddorol o liw a gwead.
Rydw i wedi gwneud printiau ers naw mlynedd, gan greu gwaith yn fy stiwdio gartref i’r de o Aberystwyth. Mae fy hyfforddiant cychwynnol mewn dylunio ffasiwn wedi llywio fy hoffter o liw a gwead ac wedi gyrru fy ystyriaeth o bwysigrwydd deunyddiau yn fy ngwaith