ae gemfeini yn hanfodol bwysig yn fy ngwaith. Rwy’n defnyddio gemfeini naturiol, heb eu trin, yn unig, a dewisir pob un am ei chynwysiadau unigryw a’i chymeriad hanfodol. Fy nod yw dweud stori pob gem trwy waith metel cerfluniol beiddgar sy’n cynnal ac yn arddangos ei rhinweddau unigol. Caiff fy ymarfer ei lywio gan fy niddordeb mewn strwythurau anorganig, a’i ysbrydoli gan ffurfiau daearegol, gwaith metel pensaernïol, a cherflunwaith. Defnyddir siapiau monolithig cryf i bwysleisio’r nodweddion naturiol o fewn y gemfeini, tra bod y triniaethau arwyneb yn aml yn cyfeirio at y marciau a’r gweadau a welir mewn amgylcheddau adeiledig. Caiff y marciau a wneir yn y broses wneud aros, ac yn aml eu pwysleisio, gan adlewyrchu’r cysylltiad ffisegol uniongyrchol rhwng offer a metel. Rwy’n gweithio’n uniongyrchol mewn metel, gan ddefnyddio technegau traddodiadol fel rhychu a phlygu, sodro, ffeilio a gorffen â llaw.