Rydyn ni’n gwneud cerfluniau gwifren dau a thri dimensiwn – ar gyfer yr ardd a’r tŷ. Rwy’n gwneud y rhai gardd gyda fy ngŵr Phil. I raddau helaeth rwy’n hunan-addysgedig, ac rwy’n gweld pethau mewn tri dimensiwn sy’n helpu wrth ddylunio fy ngherfluniau. Gwneir y cerfluniau bach gydag un darn di-dor o wifren i ‘fraslunio’r’ amlinelliad, yna gwehyddu â llaw i greu’r agwedd tri dimensiwn.