Llio James

Rwy’n wehydd llaw cyfoes sy’n trosi dylunio traddodiadol i iaith heddiw. Rwy’n dod o Dal-y-bont, Ceredigion a graddiais mewn gwehyddu o Ysgol Gelf Manceinion (2009) a gyda gradd Meistr mewn Dylunio: Ffasiwn a Thecstilau o Brifysgol Bath Spa (2014). Ers hynny rwyf wedi gweithio yn y diwydiant tecstilau yn Efrog Newydd, Yr Alban, Cymru a Lloegr.
Heddiw, rwy’n gweithio yn fy stiwdio yng Nghaerdydd, gan ddefnyddio gwŷdd dobby traddodiadol. Rwy’n dylunio’r brethyn yn y stiwdio a’i gynhyrchu mewn melinau lleol yng Nghymru a Lloegr. Rwyf hefyd yn creu darnau comisiwn unigryw a wehyddir â llaw. Mae’r gwaith wedi’i wreiddio mewn ymdeimlad o berthyn – teimlad yn yr isymwybod o fod yn gyffyrddus, yn esmwyth mewn cynefin naturiol. Felly mae fy ngwaith yn archwilio’r patrymau traddodiadol Cymreig sy’n dyddio nôl ar hyd y cenedlaethau gyda’r nod o’u bywiogi ym myd modern heddiw. Gan weithio gyda gwlân, rwy’n gwneud darnau i’r tŷ fel blancedi a chlustogau, ynghyd ag amrediad fechan o sgarffiau.