Teifi Woodworker

Yn fy ngweithdy yng Ngorllewin Cymru, ysbrydolir y dodrefn a gynhyrchaf gan ddodrefn cefn gwlad a brodorol. Rwy’n defnyddio technegau traddodiadol ac offer llaw i gynhyrchu darnau cyfoes hardd sy’n dathlu’r pren ac a ddaw’n drysorau’r dyfodol.
Ar hyn o bryd rwy’n gwneud amrediad o fyrddau, meinciau, cadeiriau a stolion. Adeiledir pob darn o bren Prydeinig wedi’i gyrchu’n gynaliadwy, gan ddefnyddio uniadau traddodiadol a thechnegau gorffen â llaw i gyflawni gorffeniad cyffyrddol, croesawgar. Lle y bo’n bosibl rwy’n cyrchu pren lleol ac yn chwilio am bren â chymeriad a phatrymau graen diddorol. Yn aml mae faint o bren sydd ar gael a phatrwm y graen yn dylanwadu ar y dyluniadau terfynol. Gorffennir yr eitemau gydag olewau a phaent sy’n harddu’r pren yn naturiol. Defnyddir technegau llosgi ac eboneiddio ar rai eitemau i greu lliw du cryf ynghyd ag ychwanegu gwead.