Polgray Clay

Rwy’n gwneud creaduriaid a gwrthrychau ceramig bychain a ysbrydolir gan draethlin Cernyw, ac sy’n cael eu llywio’n aml gan ddarganfyddiadau fel bwiau, cregyn a cherrig crynion. Mae pob darn, sydd ag awgrym cynnil o fynegiant, yn sefyll yn rhywle rhwng gwrthrych a bod. Rwy’n ceisio dal y gwaith hwnnwy yn y gwagle rhwng dau le, lle mae’n teimlo’n llai fel rhywbeth dyfeisiedig a mwy fel rhywbeth a ddarganfuwyd.
Mae’r gwaith yn fwriadol fychan, fel arfer yn ddigon bach i eistedd ar gledr eich llaw, gan greu cysylltiad mwy clos, mwy personol.
Pan fo’r tywydd yn caniatáu, rwy’n tanio â Raku: gwneir y darnau diweddaraf o grochenwaith caled wedi’i danio ar dymheredd uchel gydag amrywiaeth o wydreddau a slipiau cartref. Mae’r arwynebau hyn yn creu gweadau mat caregog, lliwiau hindreuliedig ac ambell i fflach o liw sy’n adleisio gwrthrychau arfordirol wedi’u hindreulio gan halen a haul.