Rwy’n grochenydd hunan-addysgedig sy’n gwneud cerameg wedi’i thanio â phren yn fy stiwdio gartref yng Ngogledd Sir Benfro. Rwyf hefyd yn rhedeg dosbarthiadau a gweithdai rheolaidd.
Rwy’n llunio fy mhotiau ar olwyn fomentwm a bwerir gan y traed yn unig. Rwy’n hoffi ei rhythm naturiol a’r cyflymdra arafach. Rwyf hefyd yn mwynhau’r rhyddid o lunio â llaw.
Yn aml, rwy’n cynnwys deunyddiau naturiol a gesglir yn lleol yn fy ngwaith i greu ymdeimlad o berthyn. Ar gyfer yr addurniad arwyneb rwy’n haenu slipiau a wneir o gleiau lleol ac yn gosod gwydreddau sy’n cynnwys lludw pren yn bennaf. Y rhyngweithiad elfennaidd hwn rhwng daear a thân yn yr odyn bren sy’n rhoi eu cymeriad terfynol i’r darnau.
Ysbrydolir fy ngwaith gan fy amgylchoedd naturiol, a’r dylanwadau eraill yw fy hoffter o De, ac athroniaeth ac estheteg y Dwyrain. Rwy’n ystyried gwneud crochenwaith fel ffurf ar fyfyrio.