Arddangoswyr Cymru

Arddangosiadau

Mae arddangosiadau crefft yn rhan annatod o Ŵyl Grefft Cymru. Drwy gydol y penwythnos, bydd gwneuthurwyr crefftus yn eich gwahodd i arafu a gwylio crefft yn dod yn fyw drwy law’r amrywiaeth o wneuthurwyr a fydd yn rhannu eu sgiliau.  

Mae’r arddangosiadau byw hyn yn dangos yr amser, y manwl gywirdeb a’r wybodaeth ddofn sydd y tu ôl i bob darn, gan gynnig cyfle prin i ddeall nid yn unig sut mae pethau’n cael eu gwneud, ond pam maen nhw’n bwysig.

Mae’n ddathliad ymarferol o sgìl, amynedd a gwerth sy’n agor ein llygaid, ac mae’n un o’r elfennau mwyaf poblogaidd yn yr Ŵyl.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.