Clwb Crefft
Mae croeso cynnes i deuluoedd gyda phlant o bob oedran yn Y Labordy Crefft.
Drwy gydol Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi, gall teuluoedd ymgolli yn y Gweithdai galw heibio AM DDIM i Blant yn y Labordy Crefft, sef man creadigol bywiog lle gall y dychymyg redeg yn wyllt.
Mae’r Labordy Crefft islaw’r Ardd Lysiau, wrth ochr y Man Chwarae i Blant, felly mae’n lleoliad perffaith i wneuthurwyr ifanc.
Gallwch ddisgwyl gweld lliw, creadigrwydd a chwa o hud – a digon o weithgareddau ymarferol. Bydd dwli, swigod ac elfennau hudol gyda’r gŵr tra direidus, Mr Jon Jon, ynghyd â sesiynau dweud storïau cyfareddol gyda’r Bardd, Ceri Phillips.
Ar ddydd Gwener, rydym yn croesawu ymweliadau gan ysgolion lleol, tra bod dydd Sadwrn a dydd Sul yn gyfle i deuluoedd alw heibio ac ymuno yn yr hwyl. Galwch heibio a bwriwch ati i wneud! (Ar gau am hoe rhwng 1-2pm!)
Noddir y Labordy Crefft drwy garedigrwydd Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Ceredigion, Menter Iaith Cered a Walden Arts.




