Mae Barney Murray yn adeiladwr waliau sychion yn Sir Dinbych a ddewisodd y grefft hon ar ôl penderfynu bod yn well ganddo fod allan yn yr awyr agored yn hytrach nag astudio yn y coleg. Derbyniodd fwrsari Heritage Crafts yn 2023, a ganiataodd iddo ddilyn y cynllun ardystio Prif Grefftwr hynod drwyadl a heriol gan Gymdeithas y Waliau Sychion, dan fentoriaeth y prif adeiladwr waliau sychion, Andy Loudon. Yn ogystal, enillodd wobr Crefftwr Adeiladu Ifanc y Flwyddyn 2024, a noddir gan English Heritage. Mae wedi ennill nifer o wobrau mewn cystadlaethau codi waliau sychion ac wedi bod yn llysgennad dros godi waliau sychion, gan chwarae rhan weithredol a brwdfrydig yn helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau drwy ddilyn cwrs hyfforddwr.