Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, rydw i nawr yn gwneud crochenwaith caled a phorslen swyddogaethol wedi’i danio’n atmosfferig yn Stiwdios Kigbeare ar ymyl Dartmoor. Rwy’n llunio fy ngwaith ar droell gan archwilio arlliwiau a gwneud marciau, boed trwy gyfeirio llwybrau fflamau wrth danio â phren, neu grafu trwy slip i greu arwynebau haenog yn yr odyn nwy. Gan gyfuno ffurfiau ysgafn â phatrymau ailadroddus, rwy’n ceisio sicrhau bod y potiau hyn yn cyfleu ymdeimlad o gynhesrwydd, ymarferoldeb ac agosatrwydd. Yn 2022, derbyniais Ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol.