Anna Cook Paperart

Mae Anna yn dorrwr papur hunan-addysgedig gyda chefndir mewn gwneud printiau. I gychwyn roedd yn creu gwaith un dimensiwn, ond nawr mae’n arbenigo mewn darnau amlhaenog y mae’n eu dylunio, eu tynnu ac yn eu torri â fflaim. Gan ddefnyddio papurau tonaidd ac offer boglynnu, mae Anna yn cerflunio’r papur i greu dyfnder a symudiad ac yna’n haenu pob darn yn ofalus mewn fframiau blwch. Daw ei hysbrydoliaeth o’r byd naturiol a’i drigolion – mae’n ymdrechu i gipio personoliaethau’r testunau yn eu cynefin naturiol.