Seaweave Furniture

Rwy’n gwneud dodrefn, gyda’r ffocws ar ddefnyddio pren coedlan yn hytrach na choed llawn. Mae’r dull hwn yn cyfoethogi fy mhroses, yn cefnogi bioamrywiaeth, ac yn hepgor yr angen am gwympo coed llawn dwf. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydw i wedi partneru â chwmni Waterhaul, sy’n adfer rhwydi pysgota ac yn eu troi’n blastigion defnyddiadwy. Rwy’n eu defnyddio i greu cortyn i wehyddu seddau fy narnau. Gellir olrhain pob swp o gortyn i’r traeth penodol lle casglwyd y rhwydi, gan ychwanegu stori unigryw at bob eitem.