Mae Hael Natural Colour yn fferm organig deg erw ac yn stiwdio liwio yn Sir Benfro, Cymru. Ar y cyd â’r fferm, rydym yn tyfu ac yn cynaeafu lliwlysiau i greu lliw naturiol a ddefnyddiwn mewn tecstilau wedi’u llifo â llaw, citiau creadigol a gweithdai tymhorol.
Mae ein tecstilau’n amrywio o gynhyrchion i’w gwisgo, fel hosanau gwlân, cynheswyr dwylo ac ategolion gwallt i ffabrigau ar raddfa fawr y gellir eu defnyddio fel blancedi ac addurniadau tu mewn.
Mae pob darn rhyw ychydig yn wahanol, mae’r amrywiadau cynnil mewn tôn, dyfnder a gwead yn rhan o’r broses liwio naturiol ac yn adlewyrchu’r cynhwysion byw a ddefnyddir. O gynaeafu’r planhigion, i sychu, prosesu, lliwio a gorffen – gwneir y cyfan ar ein fferm.