Amber Cooper-Green

Mae Amber Cooper-Green yn ddylunydd gemwaith o Nottingham ac yn fyfyriwr graddedig o’r cwrs enwog Dylunio Gemwaith a Chynhyrchion Cysylltiedig ym Mhrifysgol Dinas Birmingham (2016). Mae’n creu gemwaith beiddgar, unigryw sy’n cydbwyso dylunio arbrofol â gwisgadwyedd bob dydd.
Mae Amber yn gweithio gyda chymysgedd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u hadfer, yn cynnwys pren caled, acrylig sgrap, arian wedi’i ailgylchu, a gweill gwau ail law. Dyluniwyd ei darnau i fod yn gyffyrddus ac yn hawdd eu gwisgo ond gan deimlo’n ffasiynol ac yn unigryw hefyd.