Justin Duance Jewellery

Mae Justin a’i dîm yn fwyaf adnabyddus am eu modrwyau pren ac am gastio metelau gwerthfawr mewn tywod traeth, ac maent yn creu darnau organig, unigryw sydd yn aml yn droeon ar ddyluniadau clasurol. Gwneir y rhan fwyaf o’n gemwaith ar archeb ac anogir pobl i bersonoli eu darn trwy ddewis y pren a fewnosodir yn eu modrwy neu’r tywod traeth y caiff ei gastio ynddo. Mae’r tywod traeth nid yn unig yn creu gwead unigryw, mae gronynnau bychain yn cael eu dal yn y metel, fel y gallwch gario darn o’ch hoff le gyda chi. Trwy ein techneg castio tywod gallwn hefyd adlunio darnau etifeddol, gan anadlu bywyd newydd i emwaith wedi torri neu heb ei wisgo.
Mae ein holl fetelau gwerthfawr wedi’u hailgylchu ac mae ein holl emfeini’n rhai masnach deg gyda thuedd gynyddol tuag at emwaith wedi’i a