Emily Higham Jewellery

Mae Emily yn Emydd ac yn Enamlwr sy’n creu gemwaith enamel ac arian lliwgar a chyfoes a ysbrydolir gan liwiau a phatrymau hardd diliau mêl, a’r siapiau a’r haenau strwythurol a geir mewn cychod gwenyn. Mae Emily yn defnyddio cyfuniadau o enamel hylif diwydiannol wedi’i haenu dros enamel gwydrog, a’i gymysgu â dalennau a gloyweddau enamel, i greu ei darnau o emwaith lliwgar. Mae Emily hefyd yn defnyddio’r dechneg enamlo Sgraffito, lle mae hi’n tynnu patrymau diliau mêl â llaw ar arwyneb enamel, sy’n golygu bod pob darn yn gwbl unigryw. Graddiodd Emily o Goleg Celf Caeredin yn 2016 gyda BA(Anrh) mewn Gemwaith a Gofannu Arian, ac yn 2017 enillodd wobr bwrsari Urdd yr Enamlwyr. Ers hynny mae wedi bod wrthi’n datblygu ei chasgliad o’i stiwdio gartref yn Swydd Gaerhirfryn ac mae’n arddangos ei gwaith mewn ffeiriau, arddangosfeydd ac orielau ledled y wlad.