Sarah Kirby

Rwy’n gwneud torluniau leino amlflociau a lleihau. Dechreuodd fy hoffter o wneud printiau pan oedd Walter Hoyle yn fy addysgu ar gwrs sylfaen celf yng Nghaergrawnt. Yna gwnes radd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf (Farnham) Surrey ac MA mewn Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol Nottingham Trent. Ers hynny, rwyf wedi gweithio fel gwneuthurwr printiau llawrydd, a darlunydd, tiwtor a churadur arddangosiadau o bryd i’w gilydd.