Tom Frost Printmaker

Rwy’n gweithio’n bennaf fel gwneuthurwr printiau ac mae fy ymarfer yn canolbwyntio ar sgrinbrintio ar bapur. Rwy’n creu fy mhrintiau drwy adeiladu haenau o liw a gallant gynnwys rhwng dwy a thri deg o haenau o inc. Mae’r rhan fwyaf o’m gwaith yn tynnu ei ysbrydoliaeth o’r byd naturiol. Rydw i hefyd yn gweithio ar gelfwaith 3D sy’n golygu printio a pheintio ar bren ac sy’n cynnwys hwyaid denu a gwrthrychau tacsidermi. Astudiais ddarlunio yng Ngholeg Celf Falmouth gan raddio yn 2001 gyda BA Anrh Dosbarth 1af.