Rydyn ni’n cynnig cyrsiau celf a dylunio Addysg Bellach ac Uwch mewn nifer o ddisgyblaethau yng Nghaerfyrddin, Gorllewin Cymru. Mae ein gweithdai arbenigol, cyfleusterau a thiwtoriaid yn darparu sgiliau i fyfyrwyr fel y gallant ffynnu’n greadigol ac yn broffesiynol. Gan weithio gydag amrywiol ddeunyddiau a chyd-destunau, mae’r myfyrwyr yn archwilio, datblygu ac yn mireinio’u hymarfer creadigol, gan gyfuno crefftwriaeth draddodiadol â thechnolegau newydd.