Gwneir fy ngemwaith o alwminiwm wedi’i anodeiddio yr wyf yn ei brintio a’i liwio â llaw ac yna’n ei gyfuno ag arian gweadog ac weithiau pres. Gan ddefnyddio technegau monobrintio a sgrinbrintio, rwy’n hoffi dylunio darnau sy’n harddu’r patrwm arwyneb a dyfnder y lliw ar yr alwminiwm – yn ddiweddar drwy wthio’r metel i greu siapiau 3 dimensiwn llyfn.